Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022

 

Pwynt Craffu Technegol 1:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y darpariaethau perthnasol. Nid yw o’r farn bod y cyfeiriad at adrannau 16(2) i 16(4) yn effeithio ar vires y rheoliadau. Fodd bynnag, wedi meddwl, mae’r pwerau o dan adran 16(1) ac 16(1A) ar gyfer gwneud darpariaeth i reoleiddio’r broses o fewnforio hadau yn ddigon eang i gwmpasu estyniad Penderfyniad y Cyngor 2003/17/EC dyddiedig 16 Rhagfyr 2002.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2:

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn bodoli fel y’i nodir yn y Memorandwm Esboniadol ac mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i’r Pwyllgor am dynnu ein sylw at y pwynt hwn.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 3a:

O ran y defnydd o “cywerthedd” am “equivalence”, defnyddiwyd y term hwn er mwyn sicrhau cysondeb â rheoliadau blaenorol yn yr un maes. Fe’i defnyddiwyd yn Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 ac mewn OSau diwygio dilynol. Fodd bynnag, wedi ystyried y mater ymhellach, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno, er hygyrchedd, y byddai’n well defnyddio’r term “cyfwerthedd”, oni bai bod OSau sy’n defnyddio “cywerthedd” yn cael eu dyfynnu.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 3b:

Mewn perthynas â’r defnydd o’r term “archwiliadau maes”, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod anghysondeb wedi bod mewn rheoliadau blaenorol, a defnyddir “arolygiadau maes” yn y dyfodol.

O ran Pwynt Craffu Technegol 1 a Phwynt Craffu ar Rinweddau 2, bydd OS diwygio sy’n gwneud cywiriadau yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl.